Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Gwener, 10 Rhagfyr 2021
Amser: 09.30 - 09.58
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12734
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
John Griffiths AS (Cadeirydd) Mabon ap Gwynfor AS Alun Davies AS Joel James AS Sam Rowlands AS Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Manon George (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.
1.2. Cyhoeddodd Carolyn Thomas AS fuddiant perthnasol.
2 Papur i'w nodi
2.1 Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23.
2.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Cyllid mewn perthynas â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
3.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
4 Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) a’r adroddiad drafft ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir)
4.1. Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd arno, yn amodol ar y newidiadau a drafodwyd.